Mae’r canllaw hwn ar gyfer yr "iPhone 4S" neu’r "iPhone 4", ond mae’r un egwyddor yn berthnasol i ddefnyddwyr yr "iPhone 5" newydd hefyd.

Fel rhan o ddiweddariad "Apple" yn 2011 i’w system weithredu ffonau symudol (iOS), gallwch nawr osod nodiadau atgoffa i’ch hun gan ddefnyddio’r ap Reminders.

Yn wahanol i nifer o apiau eraill ‘rhestr pethau i’w gwneud’, sydd ond yn caniatáu i chi drefnu eich tasgau yn ôl terfynau amser neu flaenoriaeth, mae ap Reminders Apple hefyd yn caniatáu i chi osod rhybuddion a fydd yn ymddangos pan fyddwch chi’n cyrraedd neu’n gadael rhywle penodol, fel cartref neu dŷ ffrind.

Gall defnyddwyr "iPhone 4S" hefyd ddefnyddio meddalwedd adnabod llais "Apple", "Siri", i osod nodiadau atgoffa hefyd.

Bydd angen y canlynol arnoch chi:

  • dyfais "iOS" gydag "iOS 5" (iPhone, iPod, iPad)

Dilynwch ein canllaw cam-wrth-gam i osod rhybuddion gan ddefnyddio’r ap Reminders

Cam 1: Tapiwch yr ap Reminders ar eich "iPhone".

Cam 2: Bydd yr ap Reminders yn agor nawr. Tapiwch y symbol + yn ochr dde uchaf y sgrin.

Cam 3: Bydd cyrchwr yn dechrau fflachio i ddangos eich bod yn gallu mewnbynnu testun. Defnyddiwch fysellfwrdd yr iPhone i deipio beth bynnag yw natur eich nodyn atgoffa. Cliciwch ar Done pan fyddwch chi wedi gorffen.

Cam 4: Bydd y dasg yn ymddangos nawr gyda blwch gwag ar y chwith. Tapiwch ar yr enw rydych wedi’i roi ar gyfer eich tasg, sef ‘Feed the cat’ yn yr enghraifft hon, i ychwanegu gwybodaeth arall, er enghraifft, pryd hoffech chi gael eich atgoffa.

Cam 5: Nawr gallwch ddewis sut hoffech gael eich atgoffa. Cliciwch ar Remind Me.

Cam 6: Dewiswch y dyddiad a’r amser neu’r lleoliad yr hoffech iddynt sbarduno eich nodyn atgoffa a thapiwch Done pan fyddwch chi wedi gorffen.

Bydd nodyn atgoffa’n ymddangos, fel y gofynnwyd, i’ch atgoffa o’ch tasg.  Os ydych chi wedi sefydlu gwasanaeth cysoni iCloud Apple ar unrhyw ddyfais "iOS" arall, byddwch yn cael eich atgoffa o’ch tasgau ar y dyfeisiau eraill hynny hefyd.