Ydy’ch band eang braidd yn araf? Os ydy’r cysylltiad yn araf, efallai fod ateb syml i'r broblem.

Bydd angen y canlynol arnoch chi:

  • Cyfrifiadur sydd wedi’i gysylltu â’r rhyngrwyd.

Dilynwch y camau hyn i ganfod sut i gyflymu’ch cysylltiad â’r rhyngrwyd

Cam 1: Darllenwch ein canllaw Sut i gael gwybod beth yw cyflymder eich rhyngrwyd a chanfod pa gyflymder yn union y mae eich cysylltiad eang yn ei gynhyrchu.

Cam 2: Holwch eich darparwr gwasanaeth rhyngrwyd (ISP) i weld am ba gyflymder yr ydych yn talu. Efallai y bydd angen ichi ffonio’r ISP i gael yr ateb. Os ydy'ch band eang wedi bod gennych chi ers amser, efallai ei bod yn bryd ichi ei uwchraddio.

Cam 3: Ceisiwch ganfod pa gyflymder sydd ar gael yn eich ardal chi. Rydym yn delio â hyn hefyd yn ein canllaw ar sut i gael gwybod beth yw cyflymder eich rhyngrwyd. Mae nifer o ddarparwyr gwasanaeth rhyngrwyd yn dechrau defnyddio ffibrau optegol yn hytrach na cheblau ffôn copr er mwyn cynnig band eang cyflym iawn, ac efallai y bydd hwn ar gael drwy eich darparwr. Ond nid yw ar gael eto ymhob man yn y DU. Gall y math hwn o gysylltiad gynnig hyd at 100mb gan yr honnir ei fod yn gallu trosglwyddo data ar gyflymder golau. Ond, mae hyn yn dal yn ddibynnol ar eich llinell ffon. Felly, holwch yn gyntaf i weld pa gyflymderau y gallwch yn realistig eu disgwyl.

Cam 4: A chithau bellach yn gwybod am ba gyflymder yr ydych yn talu a beth y gall eich caledwedd ei gynhyrchu, mae sawl peth y gallwch ei wneud i gyflymu’ch rhyngrwyd:

  • Gwnewch yn siŵr nad ydych wedi mynd dros eich lwfans lawrlwytho misol. Mae rhai darparwyr gwasanaeth rhyngrwyd yn capio cyflymderau’r rhyngrwyd fel cosb am wneud hyn.
  • Os oes modd, defnyddiwch y prif soced ffôn bob amser ar gyfer eich llwybrydd band eang.
  • Peidiwch â defnyddio cebl estyniad ffôn ar gyfer eich llwybrydd. Os na allwch osgoi hynny, defnyddiwch yr un byrraf posibl.
  • Gwnewch yn siŵr fod microhidlyddion (gweler ar y dde) wedi’u gosod ar yr holl socedi ffôn eraill sy’n cael eu defnyddio. Os na fyddwch yn gwneud hyn, efallai y bydd cyflymder y rhyngrwyd yn lleihau ac y bydd clecian ar y llinell.
  • A oes unrhyw raglenni diangen yn cael eu rhedeg yn y cefndir gan eich cyfrifiadur? Mae hyn yn gallu arafu pethau'n arw. Ond mae canfod a yw hyn yn digwydd yn gallu bod yn gymhleth. Efallai y byddai’n ddoeth gofyn i arbenigwr am help.
  • Gwnewch yn siŵr fod eich meddalwedd gwrth-firws yn gyfredol. Mae firysau a hysbyswedd (adware) yn gallu arafu gryn dipyn ar eich cyfrifiadur a’ch rhyngrwyd.
  • Os ydych yn defnyddio wifi (rhyngrwyd di-wifr), gwnewch yn siŵr fod cyfrinair yn ei ddiogelu. Neu gallech fod yn rhoi wifi am ddim i’ch cymdogion!
  • Os ydych chi’n defnyddio gliniadur â chysylltiad di-wifr, rhowch gynnig ar ei ddefnyddio mewn ystafell arall neu ystyriwch ddefnyddio cebl rhyngrwyd i’w gysylltu â’r llwybrydd yn lle hynny.

Mae Fiona Syrett yn diwtor gyda Digital Unite.